The Non-Domestic Rating (Demand Notices) (Wales) Regulations 1993 (“the principal Regulations”) provide for the contents of rate demand notices which are issued by billing authorities in Wales and for such notices to be accompanied by explanatory information in the appropriate language.
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (“y prif Reoliadau”) yn darparu ynghylch cynnwys hysbysiadau sy'n galw am dalu ardrethi ac a ddyroddir gan awdurdodau bilio yng Nghymru. Maent yn darparu hefyd ynghylch rhoi gwybodaeth esboniadol yn yr iaith briodol ar y cyd â'r hysbysiadau hynny.